Agorodd t卯m Opsiynau Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithasol gaffe cymunedol yn Institiwt Blaenau yn ddiweddar. Mae鈥檙 caffe yn bartneriaeth gyda Blaina Community Institute Limited ac mae鈥檔 cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gwerthfawr i oedolion gydag anableddau i ddatblygu sgiliau bywyd, cymdeithasol a chyfleoedd gwaith o fewn byd arlwyo a lletygarwch.
Dywedodd Mary Welch, Rheolwr Opsiynau Cymunedol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淢ae鈥檙 fenter gyffrous yma wedi rhoi cyfle i ni weithio gyda gr诺p cymunedol yn y Blaenau fel y gallwn roi bywyd newydd i un o adeiladau hanesyddol 乱伦大神 a hefyd ddangos talentau arlwyo y staff o fewn Gofal Cymdeithasol ac yn bwysig, gynnig lleoliadau gwaith y mae angen mawr amdanynt i鈥檙 rhai yr ydym yn eu cefnogi. Mae鈥檙 cynllun hwn yn adeiladu ar y gwaith datblygu a wnaethom eisoes gyda Gwasanaethau Prydau Cymunedol 乱伦大神, lle鈥檙 ydym yn cynnig te prynhawn a snaciau ysgafn i鈥檞 dosbarthu o ddrws i ddrws gyda chiniawau canol-dydd traddodiadol ar gyfer y bobl hynny na all baratoi eu bwyd eu hunain.鈥
Agorodd y caffe ei ddrysau ym mis Medi 2023 a鈥檙 wythnos hon fe wnaethant gynnal parti i ddathlu鈥檙 agoriad ac i ddiolch i鈥檙 holl bobl a weithiodd yn ddiflino i agor y fenter. Yn ymuno 芒鈥檙 staff gofal cymdeithasol a鈥檙 myfyrwyr arlwyo yn y parti agoriadol roedd cynrychiolwyr o鈥檙 cyngor lleol, aelodau etholedig, aelodau a ffrindiau pwyllgor Institwt Blaenau a grwpiau cymunedol ehangach tebyg i Gymdeithas Cartrefi Tai Calon a ddarparodd gyllid grant i adnewyddu鈥檙 caffe ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin sy鈥檔 gweithio yn adeilad hanesyddol Institiwt Blaenau.
Cipiwyd yr uchod gan y Cynghorydd Chris Smith, y cynghorydd Hayden Trollop a'r cynghorydd Tommy Smith a fynychodd y digwyddiad lansio.
Yn y lansiad dywedodd y Cyng Hayden Trollop (Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol): 鈥淢ae鈥檙 gweithio partneriaeth yn y Stute Caf茅 rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 乱伦大神 a phwyllgor rheoli Institiwt Blaenau wedi galluogi鈥檙 Cyngor i symud ymlaen 芒 dwy flaenoriaeth allweddol sef hyrwyddo cynhwysiant a phwysigrwydd cymuned. Ar ran Cyngor 乱伦大神, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i鈥檙 prosiect blaengar hwn a gobeithiaf y bydd pobl Blaenau a鈥檙 trefi o amgylch yn cwrdd yn y safle cymunedol gwych hwn am flynyddoedd lawer i ddod.鈥
Mae鈥檙 caffe eisoes wedi profi鈥檔 llwyddiant ers ei agor a chaiff ei groesawu fel safle i鈥檙 gymuned gwrdd am sgwrs gyda theisennau newydd eu pobi, paninis neu ddim ond dishgled o de 4 diwrnod yr wythnos 鈥 dyddiau Mawrth i ddyddiau Gwener rhwng 9am-4pm. Mae Stute Caf茅 yn: Institiwt Blaenau, Stryd Fawr, Blaenau, NP13 3BN.
Cliciwch yma i weld y fwydlen.
听