Penderfynodd Cyngor ÂÒÂ×´óÉñ ddefnyddio ei ddisgresiwn a chyflwynodd bremiymau’r dreth gyngor ar Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi, fel y’u diffinnir gan adran 12(A) 3 (Eiddo Gwag Hirdymor) a 12(B) 4 (Ail Gartrefi) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bwriad Premiymau’r Dreth Gyngor yw bod yn arf i helpu Awdurdodau Lleol i ddod â chartrefi gwag hirdymor a chartrefi segur, yn ôl i ddefnydd a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Os yw eich eiddo yn destun premiwm, bydd yn cael ei godi ar ben tâl safonol y Dreth Gyngor.
Premiwm Eiddo Gwag Hirdymor
Bydd y premiwm eiddo gwag hirdymor yn cychwyn o’r 1af o Ebrill 2025 ac yn berthnasol i unrhyw annedd sydd wedi bod yn wag yn barhaus a heb ei ddodrefnu’n sylweddol am fwy na 12 mis (oni bai ei fod yn perthyn i ddosbarth eithrio 1 – 4 neu eithriad lleol a restrir isod).
Mae swm y premiwm a gymhwysir yn seiliedig ar hyd yr amser y mae'r eiddo'n wag a heb ddodrefn i raddau helaeth. Bydd unrhyw gyfnod gwag cyn y 1af o Ebrill 2024 yn cael ei ddiystyru.
Lefel y Premiymau ar Eiddo Gwag Hirdymor
Hyd yr amser y mae’r eiddo wedi bod yn wag Ers 01.04.24 |
Premiwm |
Rhwng 1 – 2 flynedd |
100% |
Rhwng 2 – 3 mlynedd |
200% |
Dros 3 blynedd |
300% |
Y Premiwm ail Gartrefi
Bydd y premiwm ail gartrefi yn cychwyn o’r 1af o Ebrill 2026 ac yn berthnasol i unrhyw annedd nad yw’n unig neu’n brif breswylfa i berson ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol (oni bai ei fod yn perthyn i ddosbarth eithriad 1-7 a restrir isod).
Y premiwm a gymhwysir yw 100%.
Eithriadau i’r Premiwm
Mae rheoliadau yn nodi saith dosbarth o anheddau sydd wedi'u heithrio o'r premiwm. Os yw'ch eiddo yn perthyn i un o'r dosbarthiadau canlynol, efallai y byddwch yn gymwys i gael eithriad a dim ond y tâl treth gyngor safonol y bydd yn rhaid i chi ei dalu am yr eiddo.
Mae Dosbarthiadau 1 – 4 yn ymwneud ag eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Mae Dosbarthiadau 5 – 7 yn ymwneud ag ail gartrefi yn unig.
DOSBARTH |
DIFFINIAD |
Dosbarth 1 |
Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu neu lle mae cynnig i brynu'r annedd wedi'i dderbyn – am gyfnod penodedig o flwyddyn.
|
Dosbarth 2 |
Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gosod - neu lle mae cynnig i'w rentu wedi'i dderbyn – am gyfnod penodedig o flwyddyn. |
Dosbarth 3 |
Anecsau sy'n rhan o'r brif annedd, neu'n cael eu trin fel rhan o'r brif annedd. |
Dosbarth 4 |
Anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa rhywun pe na bai’n byw yn llety’r lluoedd arfog.
|
Dosbarth 5 |
Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod a feddiennir.
|
Dosbarth 6 |
Cartrefi tymhorol y gwaherddir eu meddiannu drwy gydol y flwyddyn.
|
Dosbarth 7 |
Anheddau sy’n gysylltiedig â swyddi. |
Eithriadau Lleol
Yn ogystal â’r eithriadau uchod, mae Cyngor ÂÒÂ×´óÉñ wedi cytuno ar yr eithriadau lleol canlynol mewn perthynas ag eiddo gwag hirdymor:
DOSBARTH |
DIFFINIAD |
LLEOL 1 |
Prynwr Newydd - wedi'i eithrio hyd at 12 mis. |
LLEOL 2 |
Unigolyn sy’n aros am ganlyniad grant / benthyciad eiddo gwag - ac eithrio hyd at 12 mis o benderfyniad grant. |
LLEOL 3 |
Achosion lle mae materion cyfreithiol cymhleth (angen cadarnhad cyfreithiwr). |
LLEOL 4 |
Lle disgwylir Caniatâd Cynllunio. |
LLEOL 5 |
Asesiadau Hereditament – Mae hereditament cyfansawdd yn annedd sydd â rhannau domestig ac annomestig, bydd eithriad yn cael ei ddyfarnu lle nad oes mynediad annibynnol i'r elfen annedd.
|
Sut i Wneud Cais am Eithriad
Os ydych chi'n meddwl bod eich eiddo yn perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau eithriad uchod, cliciwch ar y ddolen ganlynol i gwblhau'r ffurflen eithriad premiwm
Cymorth i berchnogion eiddo gwag hirdymor
Efallai y bydd cymorth ar gael i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Cliciwch ar y dolenni isod os gwelwch yn dda:
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:
E-bost: Premiums@blaenau-gwent.gov.uk
Tel: 01495 363900
Adran Refeniw
Cyngor Bwrdeistref Sirol ÂÒÂ×´óÉñ
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN